{ko ir bâd ar dwr}
1 Y don bengrychlon grochlais
2 na ludd goel budd ym gael bais
3 i vyned draw daw ym dal
4 nag oeta vi nag atal
5 gad er Duw rhad orddwy rhi
6 rhwyfo dwfr rhof a Dyvi
7 tro tra chefn trefn trychanrhwyd
8 dy vardd wyf uwch dwfr yddwyd
9 a ganawdd neb a genau
10 o vawl i'r twrwf meistrawl tau
11 gymar hwyl gem yr heli
12 gamen mor gimin a mi
13 ni bu brifwynt blanet tygyn
14 na rhuthr clawdd rhac deuglawdd dyn
15 nag esgud vrwydr nag ysgwr
16 nag ysgwydd gorwydd na gwr
17 nas cyflybwn gwn gyni
18 grefdaer don ith gryfdwr di
19 ni bu organ na thelyn
20 na thavawd diveiwawd dyn
21 [396] nas barnwn yn vn gyfref
22 vordwy glas ath vowrdeg lef
23 ni chair yr ail gair gennyf
24 am v'enaid brad naid bryd Nyf
25 yn galw ithegwch golau
26 ai phryd deg ary loywfrwd dau
27 am hyny gwnaf na'm lluddych
28 ymwanwraig hoyw ddwr croyw crych
29 i vyned v'anwyl am barn
30 drwy lwyn bedw draw i Lan Badarn
31 at verch a'm gwnaeth fraeth frwyth vyw
32 vorwyn vwyn o veirw yn vyw
33 cyfing gennyf vynghyngor
34 cyveilles marchoges mor
35 atteg wyd rhof am cymwd
36 attal ath drwyn frwyn yfrwd
37 pei gwypyd dan falinglwyd
38 pefr letuywraig i aic wyd
39 maint vyngherydd am drigaw
40 mantell wyd i'r draethell draw
41 cyd deuthvm er ail Indeg
42 hyd yn dy vron y don deg
43 ni'm lladdo rhyvel gelyn
44 om lluddud i dud y dyn
45 ne'm lladd saithvgeinradd serch
46 na'm lludd at Vorvudd v'eurverch
Dauid ap Gwilim